top of page
Mae Alis yn angerddol am waith cymunedol, a graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan dderbyn gwobr y Parch. Paul Bigmore ar gyfer cerddoriaeth yn y gymuned.
Mae hi’n aml yn perfformio cyngherddau rhyngweithiol mewn cartrefi henoed, ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn effaith cerddoriaeth ar gleifion dementia, ar ôl profi’n uniongyrchol sut mae cerdd yn gallu newid sefyllfaoedd. Mae hi wedi gweithio’n helaeth efo elusennau cymunedol, gan gynnwys Live Music Now!, Lost Chord a Music in Hospitals and Care.
Mae Alis hefyd yn brofiadol yn arwain gweithdai a chyngherddau mewn ysgolion cynradd, ac mae hi’n hapus i’w cyflawni yn Saesneg neu yng Nghymraeg.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
bottom of page