Alis Huws

Yn gweithio’n bennaf fel unawdydd ac yn gerddor siambr, Alis Huws yw'r Delynores Frenhinol Swyddogol. Mae hi wedi rhoi cyngherddau unawdol ar hyd a lled y DU, ac mae hi wedi perfformio ar draws Ewrop a’r Dwyrain Pell.
Mae Alis yn perfformio’n rheolaidd mewn digwyddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: agor y swyddfeydd newydd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Merlin, y dathliadau Gŵyl Dewi yn Downing Street a Lancaster House, ac agoriadau Brenhinol Swyddogol y Senedd yn 2016 a 2021. Y 2019, perfformiodd ym Mhalas Buckingham i nodi hanner canmlwyddiant Arwisgiad EUB Tywysog Cymru.
Yn 2017, cymerodd ran yng Nghyngres Telynau’r Byd yn Hong Kong, ac ymunodd â Katherine Jenkins ac Only Men Aloud mewn perfformiad yn dathlu Rownd Derfynol Cwpan Pêl Droed UEFA yng Nghaerdydd. Yn ogystal, perfformiodd Alis yn ffair ryngwladol Hankyu yn Osaka yn 2016, gan gynrychioli Cymru.
​
Yn dilyn ei gradd gyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, fe dderbyniodd ei gradd Meistr gan y Coleg, dan oruchwyliaeth Pennaeth y Delyn, Caryl Thomas. Fel rhan o’i hastudiaethau, treuliodd amser yn Amsterdam ar gynllun Erasmus, gan astudio gyda’r delynores enwog Erika Waardenburg. Yn CBCDC, fe dderbyniodd gwobr Midori Matsui ar gyfer cerddoriaeth, gwobr Telyn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, Gwobr Gerddoriaeth Siambr McGrennery a gwobr y Parch. Paul Bigmore ar gyfer cerddoriaeth yn y gymuned. Mae Alis yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Tillett, Ymddiriedolaeth Biddy Baxter a John Hosier, Cyngor Celfyddydau Cymru ag yr EMI Sound Foundation am eu cefnogaeth hael yn ystod ei hastudiaethau.
Yn Hydref 2019, ymunodd Alis â cherddorfa Britten-Shostakovich ar eu taith gyntaf erioed i Rwsia. Yn hwyrach y flwyddyn honno, treuliodd Alis bythefnos yn Siapan ar daith unigol, a gefnogwyd gan Wales Arts International. Hi yw'r delynores bresennol ar raglen datblygu Foyle Future Firsts efo Cerddorfa yr LPO yn Llundain. Mae hi’n edrych ymlaen i groesawu Cyngres Telynau’r Byd i Gaerdydd yn 2022, pan mae hi fydd y Cydlynydd Ieuenctid.